Tecwyn Ifan
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd bocs-set o ddeunydd Tecwyn Ifan ar label Sain.
Roedd Golwg360 yn lansiad swyddogol Llwybrau Gwyn yng Nghlwb Canol Dre, Caernarfon nos Fercher diwethaf lle cafwyd noson fendigedig o gerddoriaeth.
Mae’r bocs-set newydd yn gasgliad cyflawn o albyms Tecwyn gan gynnwys Y Dref Wen, Dof yn ôl, Goleuni yn yr hwyr, Edrych i’r gorwel, Herio’r oriau du, Stesion Strata a Wybren Las.
Yn ogystal â hynny ceir 7 o ganeuon newydd sbon, ac mae Golwg360 wedi cael caniatâd ecsgliwsif i rannu clipiau byr o’r rhain gyda’r genedl dros yr wythnos nesaf.
Y gân gyntaf yw ‘Dy Garu Di Sy Raid’, a dyma eglurhad o’r gân yng ngeiriau’r cyfansoddwr:
“Mae’r tri phennill cyntaf yn draddodiadol, ac yn sôn am leoedd yng nghyffiniau Dyffryn Conwy.”
“Enghreifftiau sydd yma o rywun neu rywrai yn ceisio rhoi stop ar gariad. Ond er gwaetha’r bygythiad mae’r cariadon yn mynnu dal wrth ei gilydd.”