Roedd yr Eisteddfodwyr wedi mwynhau eu sglodion!
Bydd Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012 yn dod i ben heno ʼma gyda Chymanfa Ganu’r ŵyl yn cael ei chynnal yng Nghapel y Drindod, Pwllheli, gan ddechrau am 6.00 yr hwyr.
Mae trefnwyr yr Eisteddfod yn honni fod yr ŵyl wedi bod yn llwyddiant mawr ar waetha’r tywydd, gyda dros 90,00 o bobl yn ymweld â’r maes yn ystod yr wythnos. Ar ddechrau’r wythnos, y gobaith oedd y byddai’r nod o groesawu 100,000 ymwelydd i faes yr Eisteddfod yng Nglynllifon yn cael ei gyrraedd.
Maen nhw hefyd wedi cyhoeddi fod 27,500 o geir wedi ymweld â’r maes, bod 15,000 o gystadleuwyr wedi cymryd rhan yn yr Eisteddfod, gyda 500 o stiwardiaid yn edrych ar eu holau yn ystod yr wythnos.
Ystadegyn diddorol hefyd ydi fod tunnell a hanner o sglodion wedi cael eu bwyta yng Nghaffi Mistar Urdd yn ystod yr wythnos!