Protest yn Syria
Mae llywodraeth Syria wedi gwadu bod rhyfel cartref yn y wlad, gan ddweud eu bod nhw’n wynebu “brwydr arfog er mwyn dadwreiddio terfysgaeth” yno.

Daw’r datganiad gan weinyddiaeth yr Arlywydd Bashar Assad, ddiwrnod wedi i bennaeth cadw heddwch y Cenhedloedd Unedig, Herve Ladsous, ddweud fod rhyfel cartref yn Syria.

Ond mynnodd adran dramor y wlad bod ei ddatganiad yn anghywir ac “yn groes i beth sy’n digwydd go iawn”.

Ychwanegodd bod awdurdodau’r wlad yn gwrthdaro â grwpiau arfog oedd yn “llofruddio, herwgipio a gweithredu ar gynlluniau terfysgol eraill”.

Mae awdurdodau Syria yn aml yn galw gwrthryfelwyr Syria yn derfysgwyr.