Lindy Camberlain-Creighton
Mae crwner yn Awstralia wedi penderfynu mai dingo fu’n gyfrifol am ladd babi nôl ym 1980, mewn achos sydd wedi hollti barn yn y wlad.

Cafodd mam Azaria Chamberlain, oedd yn naw wythnos oed, ei charcharu am oes ym 1982 am lofruddio ei phlentyn ond cafodd ei rhyddhau ar ôl tair blynedd ar ôl ei chael yn ddieuog.

Roedd Lindy Chamberlain-Creighton wedi mynnu o’r dechrau mai ci gwyllt oedd wedi cymryd ei phlentyn o’r safle gwersylla lle roedden nhw’n aros.

Dyma’r pedwerydd cwest i farwolaeth Azaria Chamberlain.

Dywedodd Lindy Chamberlain-Creighton a’i chyn-ŵr Michael Chamberlain tu allan i’r llys yn Darwin eu bod yn teimlo “rhyddhad”.

Fe ddiflannodd Azaria o wersyllfa yn Ayers Rock, sydd bellach yn cael ei adnabod fel Uluru. Roedd yr achos wedi hollti barn gyda nifer o bobl yn Awstralia yn credu na fyddai dingo yn ddigon cryf i allu cymryd y plentyn.

Doedd dim achosion tebyg o’r fath ar y pryd, ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf credir bod cŵn gwyllt wedi bod yn gyfrifol am dri ymosodiad angheuol ar blant.