Zante yng Ngwlad Groeg
Mae dyn o Brydain wedi marw mewn damwain barasiwt tra ar wyliau ar ynys Zante yng Ngwlad Groeg.

Roedd Jake Simkins, oedd yn ei 40au, ar wyliau gyda’i gariad, sy’n feichiog, pan fu farw ddydd Gwener.

Mae heddlu’r wlad yn credu bod ei barasiwt wedi mynd yn sownd ar glogwyn ger traeth Navagio yng ngogledd ddwyrain Zante a’i fod wedi syrthio i’w farwolaeth.

Mae’r Swyddfa Dramor wedi cadarnhau ei farwolaeth ac yn dweud eu bod yn cynorthwyo teulu Jake Simkins.