Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am dystion ar ôl i ddyn 59 oed gael ei ladd mewn damwain ffordd ar yr A40 ger Llanymddyfri ddydd Sadwrn.
Bu farw Karl Henry Preuss o Wiltshire yn dilyn y gwrthdrawiad toc wedi 5pm, tua dwy filltir o dref Llanymddyfri.
Mae’r peiriannydd sifil yn gadael gwraig a dau o blant.
Cafodd cwest i’w farwolaeth ei agor a’i ohirio.
Yn y cyfamser mae’r ymchwilid i achos y ddamwain yn parhau ac mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101.