Mae bom ar feic modur wedi ffrwydro ar ol taro yn erbyn bws gan ladd tri o bobl ac anafu 40 o rai eraill  yn ne-ddwyrain Pacistan.

Roedd y bom yn targedu pererinion Shiaidd yn teithio i Iran ond fe darodd bws yn llawn trigolion lleol drwy gamgymeriad, yn ôl swyddog y llywodraeth.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn Mastung yn nhalaith Baluchistan.

Mae eithafwyr Sunni wedi cynnal sawl ymosodiad ar Shiaid yn Baluchistan yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fel arfer pan mae nhw’n teithio i Iran.