Mirandola yn ngogledd yr Eidal
Mae o leiaf naw o bobol wedi marw mewn daeargryn yng ngogledd yr Eidal, 40km i’r gogledd-orllewin o ddinas Bologna.

Dyma’r ail ddaeargryn mawr i daro’r ardal o fewn naw diwrnod. Cafodd saith o bobol eu lladd mewn daeargryn a fesurodd 6.0 ar raddfa Richter ar 20 Mai. Roedd y daeargryn y bore ‘ma yn mesur 5.8.

Mae Prif Weinidog yr Eidal Mario Monti wedi galw cynhadledd i’r wasg a dywedodd y bydd y llywodraeth yn gwneud “popeth y gall i adfer bywyd normal i ardal sydd mor arbennig, mor bwysig a mor gynhyrchiol i’r Eidal.”