Mae Carwyn Jones wedi cyhoeddi mwy o fanylion am grŵp tasg a fydd yn ceisio adfywio maes awyr Caerdydd.
Dywed y Prif Weinidog mai bwriad y grŵp yw “bod yn asiant ar gyfer newid” ochr yn ochr gyda’r maes awyr.
Cwmni preifat o Gatalonia, Abertis, sy’n berchen ar y maes awyr a dywedodd Carwyn Jones bod lle i’r grŵp tasg weithio gyda nhw er mwyn “rhoi cefnogaeth a gwneud defnydd gwell o adnoddau er mwyn cyflawni canlyniadau ar y cyd.”
Ychwanegodd fod y maes awyr yn “rhan greiddiol” o economi Cymru ac yn destun balchder i bobol Cymru, a bod angen gwneud y mwyaf o’i botensial.
Carwyn yn Gadeirydd
Mae gan y grŵp amcanion penodol sy’n cynnwys hyrwyddo gwell cyfathrebu rhwng y maes awyr a’r sectorau preifat a chyhoeddus yng Nghymru, gwella cyswllt awyr Cymru, sicrhau fod y maes awyr yn tyfu a bod profiad y teithwyr sy’n defnyddio’r maes awyr yn gwella.
Y Prif Weinidog fydd yn cadeirio’r grŵp a bydd yn ceisio cael cynrychiolaeth gan gyrff megis Maes Awyr Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg, y CBI, cwmni cynnal a chadw British Airways, a Siambr Fasnach De Cymru. Mae’r cyfarfod cyntaf yn cael ei drefnu ar hyn o bryd.
Mae Ceidwadwyr Cymru wedi dweud fod ymyrraeth Carwyn Jones yn “rhy ychydig a rhy hwyr.” Dywedodd Byron Davies AC fod beirniadaeth ddiweddar Carwyn Jones o’r cwmni sy’n rhedeg y maes awyr yn mynd i’w gwneud hi’n anodd iddo “weithio’n adeiladol” gyda nhw.
“Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi gwrthod sawl cyfle i fuddsoddi mewn llwybrau awyr pwysig o Gaerdydd a allai fod wedi agor ein heconomi ni i farchnadoedd Ewrop ac America” meddai Byron Davies.
Mae niferoedd teithwyr y maes awyr wedi disgyn, yn benodol ers i gwmni BMI Baby dynnu allan o Gaerdydd. Yn 2007 aeth 2.1m o bobol trwy’r maes awyr ond mae’r nifer yna wedi haneru erbyn hyn.
O Basra i Gaerdydd – pennaeth newydd y maes awyr
Bythefnos nôl cyhoeddodd Maes Awyr Caerdydd fod Patrick Duffy yn gadael ei swydd yn bennaeth y maes awyr a bod Debra Barber wedi ei phenodi yn Gyfarwyddwr Gweithredu.
Bu Debra Barber yn Grŵp-gapten yn y Llu Awyr ac yn Gomander rheoli traffig yr RAF, a bu’n gweithio ar ehangu maes awyr Basra yn Irac ac ar baratoadau’r Llu Awyr ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Llundain.