Hosni Mubarak gafodd ei ddisodli y llynedd
Mae pobl yn yr Aifft yn pleidleisio heddiw am y tro cyntaf i ddewis arlywydd newydd i olynu Hosni Mubarak a gafodd ei ddisdoli y llynedd.

Roedd etholwyr wedi dechrau bwrw eu pleidlais bore ma.

Mae 13 o ymgeiswyr yn sefyll yn yr etholiad. Mae’n anhebyg y bydd un o’r ymgeiswyr yn ennill mwyafrif ac mae disgwyl i’r ddau ymgeisydd mwyaf poblogaidd fynd ben ben â’i gilydd ar 16 a 17 Mehefin. Fe fydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar 21 Mehefin.