Vince Cable
Mae un o ymgynghorwyr Downing Street wedi cyhuddo’r Ysgrifennydd Busnes Vince Cable o fod yn sosialydd “sy’n ymddangos yn gwneud ychydig iawn i gefnogi busnes.”
Mae Adrian Beecroft yn ŵr busnes sydd wedi ysgrifennu adroddiad i Rif 10 yn galw am gynlluniau i’w gwneud yn haws i ddiswyddo gweithwyr.
Dywedodd bod gwrthwynebiad Vince Cable i’w gynlluniau yn “ideolegol yn hytrach nag economaidd.”
“Rwy’n credu ei fod yn sosialydd oedd wedi dod o hyd i gartref gyda’r Dems Rhydd, felly mae’n un o’r chwith,” meddai Adrian Beecroft wrth y Daily Telegraph.