Mae dros 50% o bobl sydd wedi cael diagnosis o ganser yn dweud eu bod yn poeni am eu sefyllfa ariannol, yn ôl elusen canser.

Mae Cymorth Canser Macmillan wedi cyhoeddi adroddiad – “Cyfrif Cost Canser” – sy’n edrych ar effaith y problemau ariannol sy’n wynebu pobl sydd wedi’u heffeithio gan ganser yng Nghymru yn dilyn diagnosis.

Mae’r elusen am sicrhau bod pawb sy’n dioddef o ganser yn cael cyngor a chymorth ariannol.

Dywed yr elusen: “Canser yw’r frwydr galetaf y bydd llawer ohonom yn ei hwynebu. Mae pobl yn dweud wrthym mai gofidiau arian yw eu pryder mwyaf, ar ôl y diagnosis ei hun.”

Colledion incwm yw un o’r prif faterion ariannol i bobl sydd wedi cael diagnosis o ganser.

“Mae canser yn ddrud. Mae’r costau uwch sy’n gysylltiedig â diagnosis o ganser yn debygol o lyncu cyfran fawr o incwm unigolyn.  Boed hynny oherwydd cadw digon o danwydd yn y car ar gyfer y tripiau mynych i’r ysbyty, biliau gwresogi uwch neu’r pryder oherwydd incwm is.”

Y nod

Nod yr elusen yw lleihau effaith ariannol canser ar gyfer pobl yng Nghymru drwy:

  • Cynyddu ymwybyddiaeth o effaith ariannol canser ymysg y cyhoedd, Llywodraeth Cymru, y gwasanaethau iechyd a’r awdurdodau lleol.
  • Dylanwadu ar y Llywodraeth, ar wasanaethau iechyd ac ar awdurdodau lleol fel eu bod yn cydnabod yr angen i bobl sydd wedi’u heffeithio gan ganser yng Nghymru i gael cymorth a chyngor ariannol.
  • Sicrhau fod pawb sy’n cael diagnosis o ganser yng Nghymru yn gallu cael gafael ar gymorth a chyngor ariannol.
  • Mynd i’r afael ag unrhyw fylchau yn y gwasanaethau sy’n cael eu darparu a sicrhau cynnal unrhyw gymorth a gwasanaethau cyngor ariannol ar gyfer pobl sydd wedi’u heffeithio gan ganser.

‘Strategaeth canser’

Dywed Plaid Cymru bod yr adroddiad yn tanlinellu’r angen am strategaeth canser.

Dywedodd llefarydd Plaid  Cymru ar iechyd, Elin Jones: “Yr hyn mae’r ffigyrau hyn yn ddangos yw bod diffyg meddwl cydlynol yn y sector cyhoeddus yn golygu y gorfodir cannoedd o gleifion Cymreig i dalu miloedd lawer o bunnoedd oherwydd y clefyd sydd arnynt. Mae’r ffigyrau hyn yn tanlinellu’r angen i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â’u strategaeth canser.

“Bu Plaid Cymru yn galw am agwedd holistaidd at ofal canser, sydd yn trin canser nid yn unig fel mater iechyd ond sydd hefyd yn cynnwys gwasanaethau cymdeithasol, addysg, lles, tai ac adrannau eraill er mwyn gofalu y cefnogir cleifion trwy gydol cyfnod eu salwch. Mae’r adroddiad a gyhoeddwyd gan Macmillan yn cefnogi’r alwad hon, ac yn ei gwneud yn amlwg fod angen i strategaeth canser Llywodraeth Cymru gyflwyno ffordd newydd o feddwl am ganser yng Nghymru.”