Kevin Brennan AS
Mae Aelod Seneddol wedi dweud fod angen i’r cyhoedd fod yn wyliadwrus rhag ofn y bydd pobol yn defnyddio trais i darfu ar y Gemau Olympaidd pan ddaw i Gaerdydd.

Mae Stadiwm y Mileniwm yn lleoliad ar gyfer 11 gêm bêl-droed ar gyfer merched a dynion, a dywedodd Aelod Seneddol Gorllewin Caerdydd fod y digwyddiadau yn gyfle gwych i bobol Cymru weld y Gemau Olympaidd yn uniongyrchol, ond fod angen iddyn nhw fod yn effro.

Cododd Kevin Brennan y mater ar lawr Tŷ’r Cyffredin pan ofynnodd i’r Ysgrifennydd yn y Swyddfa Gartref, James Brokeshire AS, a oedd yn credu y bydd gan bobol fydd yn mynd i weld digwyddiadau Olympaidd yng Nghaerdydd yr “un lefel o ddiogelwch â’r hyn fydd gan bobol yn Llundain.”

Atebodd James Brokeshire fod yr heddlu a threfnwyr y Gemau wedi bod yn cynnal ymarferion yn holl leoliadau’r digwyddiadau Olympaidd, ac nid yn Llundain yn unig.

Mewn ymateb i Golwg360 dywedodd Kevin Brennan ei fod yn hyderus fod Heddlu de Cymru yn barod ar gyfer y digwyddiadau Olympaidd, a’i fod wedi codi’r mater yn y Tŷ yn rhannol er mwyn “codi ymwybyddiaeth fod y Gemau yn dod i Gaerdydd.”

Bydd tair o’r gemau pêl-droed a fydd yn digwydd yn Stadiwm y Mileniwm yn cael eu cynnal cyn y seremoni agoriadol yn Llundain. Bydd dwy gêm ar 25 Gorffennaf ac un ar 26 Gorffennaf, tra bod y seremoni agoriadol ar 27 Gorffennaf.

Stadiwm y Mileniwm fydd lleoliad gêm bêl-droed y fedal efydd i ddynion ar 10 Awst.