Groeg - gwlad ar ei gliniau yn ariannol
Mae’r asiantaeth sy’n rhoi graddau i fanciau’r byd, wedi israddio pump o sefydliadau gwlad Groeg – a hynny ddiwrnod yn unig ar ôl rhoi’r radd isaf posib i wlad sydd ddim eto’n methu â thalu ei dyledion.

Mae Banc Cenedlaethol Groeg, Eurobank, a banciau Alpha, Piraeus a Banc Amaethyddol Groeg wedi cael gradd CCC, o gymharu â’r radd B- oedd ganddyn nhw cynt.

Mae Fitch yn nodi nad ydi prif fanciau Groeg eto wedi derbyn y chwistrell o arian cyfalaf sy’n ddyledus iddyn nhw dan y drefn newydd sydd wedi ei chytuno gan wledydd Ewrop.

Ddoe, fe dderbyniodd gwlad Groeg yn gyfan radd CCC gan gwmni Fitch.