Senedd Gwlad Groeg
Mae arweinydd Sosialaidd Gwlad Groeg wedi cyhoeddi y bydd y wlad yn wynebu etholiad cyffredinol arall ar ôl i’r pleidiau fethu â dod i gytundeb ynglŷn â ffurfio Llywodraeth.

Roedd Evangelos Venizelos wedi cwrdd ag arweinwyr y pleidiau eraill mewn ymdrech olaf i ddod i gytundeb. Ond fe ddywedodd heddiw: “Yn anffodus mae’r wlad yn wynebu etholiad arall.”