Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau mai corff dyn a gafodd ei ganfod ym Mae Ceredigion fore ddoe.

Cafodd y corff ei dynnu o’r môr rhwng Aberdyfi a Thywyn. Mae archwiliad post mortem wedi ei gynnal a dywed yr heddlu fod angen profion pellach er mwyn sefydlu pwy oedd y dyn.

Ychwanegodd yr heddlu nad yw achos y farwolaeth yn sicr, ond nad ydyn nhw’n trin y farwolaeth fel un amheus.