Mae Plaid Cymru wedi dewis ffermwr o Dywyn i sefyll etholiad am ward allweddol Bryncrug a Llanfihangel yn is-etholiad Cyngor Gwynedd ar Fehefin 14.
Hon oedd yr unig ward lle nad oedd neb wedi cynnig ei enw i sefyll yn etholiad lleol Mai 3 eleni.
Ond fe fyddai ennill hon yn bwysig i Blaid Cymru, gan roi iddyn nhw fwyafrif ar Gyngor Gwynedd. Ar hyn o bryd, mae gan Blaid Cymru 37 o’r 75 sedd – un yn brin o fwyafrif. Pe bai ganddyn nhw 38 o gynghorwyr, fyddai yna ddim angen meddwl am lunio clymblaid er mwyn adennill rheolaeth o’r Cyngor.
Gwr lleol
Ffermwr 48 mlwydd oed ydi Alun Wyn Evans, mae’n ŵr priod gyda dau o blant ac yn ffermio’n lleol ym Mhenllyn, Tywyn, Gwynedd.
Mae’n gynghorydd eisoes, yn gynghorydd tref yn Nhywyn, ac mae hefyd wedi cynrychioli’r dref honno fel cynghorydd sir am chwe blynedd.
“Dw i’n hynod o falch i gael fy newis i sefyll ar ran Plaid Cymru yn Ward Bryncrug a Llanfihangel,” meddai Alun Wyn Evans.
“Dw i’n awyddus i gynrychioli’r ardal dwi’n ei hadnabod mor dda, a byddai’n fraint fawr i gael cynrychioli’r trigolion fel cynghorydd sir o fewn y Ward wledig hon.”