Mae newyddiadurwr blaenllaw wedi rhybuddio y gall y diwydiant papurau newydd yng Nghymru ddod i ben ymhen pum mlynedd.

Mewn cyflwyniad i Gymdeithas y Cymmrodorion yn Llundain dywedodd prif ohebydd y Western Mail, Martin Shipton, fod perchnogion y papurau newydd yn rhoi’r pwyslais ar wneud elw tymor-byr ar draul newyddiadura ac enw da papurau.

Rhybuddiodd y byddai Cymru’n lwcus i gael diwydiant papur newydd ymhen pum mlynedd os bydd tueddiadau presennol yn parhau, yn “enwedig os bydd Llywodraeth Cymru yn gollwng yr orfodaeth ar gyrff cyhoeddus i hysbysebu mewn papurau newydd.”

Adleisiodd Martin Shipton yr hyn a ddywedodd wrth bwyllgor yn y Cynulliad yn 2009, sef fod bygythiad i ddemocratiaeth yng Nghymru gan fod cymaint o bobol yn prynu papurau o Lundain sydd heb newyddion am Gymru ynddyn nhw, ac y byddai anwybodaeth pobol o’r Cynulliad a pholisïau yng Nghymru gymaint yn fwy heb wasg Gymreig.

Cynigiodd fod papurau newydd yn cael eu datgan yn asedau cymunedol a chenedlaethol ac y dylai Llywodraeth Cymru ymddwyn fel ‘brocer onest’ os oes bygythiad i ddyfodol papur a bod angen chwilio am berchennog newydd.

‘Pobol yn disgwyl gwybodaeth am ddim’

Mynnodd Martin Shipton nad yw newyddiaduraeth y bobol, trwy gyfrwng gwefannau cymdeithasol a blogiau, yn medru cymryd lle newyddiaduraeth draddodiadol.

“Heb newyddiadurwyr sydd wedi’u hyfforddi i reoli safonau bydd pobol ar drugaredd buddiannau breintiedig sydd eisiau cyfleu gwybodaeth mewn modd sy’n fanteisiol iddyn nhw,” meddai.

Beirniadodd y papurau newydd am roi eu deunydd am ddim ar y we gan ddibrisio gwaith y newyddiadurwyr “yn syth.”

“Mae’r rhan fwyaf o bobol yn disgwyl gwybodaeth am ddim a phrin yn meddwl am y gost o ddod â’r wybodaeth yna iddyn nhw,” ychwanegodd.

.