Protestiadau yn Cairo y llynedd i ddisodli Hosni Mubarak
Mae o leiaf 11 o bobol oedd yn protestio yn erbyn llywodraeth yr Aifft wedi cael eu lladd mewn gwrthdaro yn Cairo.

Roedd rhai wedi ymosod ar y protestwyr gan daflu cerrig, bomiau tân a thanio gynnau atyn nhw. Roedd y protestwyr wedi troi ar eu hymosodwyr gan eu curo.

Mae milwyr a’r heddlu bellach wedi atal y gwrthdaro, ond roedd hynny chwe awr ar ôl i’r trafferthion ddechrau.

Mae’r protestwyr yn galw am ddiwedd i’r llywodraeth filwrol oedd wedi cymryd lle Hosni Mubarak gafodd ei ddisodli 14 mis yn ôl.