Lesley Griffiths
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod Gwasanaeth Iechyd Cymru wedi “cadw’r ddysgl yn wastad” ac wedi cyrraedd eu targedau ariannol yn 2011-12, ond mae’r gwrthbleidiau wedi ymateb yn chwyrn.
Mae Gweinidog Iechyd Cymru Lesley Griffiths wedi llongyfarch y Byrddau Iechyd Lleol am gyrraedd targedau ariannol ar gyfer 2011-12, gyda swm bach o £0.5 miliwn dros ben.
“Mae hyn yn llwyddiant arbennig o ystyried y pwysau ariannol y mae Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn eu hwynebu,” meddai Lesley Griffiths.
Ond dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, fod y Llywodraeth yn ymdrin â “chyfrifeg ffantasi”.
“Rwy’n gegrwth fod y Gweinidog Iechyd yn gallu disgrifio hyn yn ‘llwyddiant arbennig’” meddai.
“Mae gan Fyrddau Iechyd Lleol gyfrifoldeb i gadw’r dafol yn wastad ac i beidio bod mewn dyled ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Mae’n glir, hyd yn oed o ddarllen datganiad y Gweinidog, fod tri o’r saith Bwrdd Iechyd heb gwrdd â’u targedau ar gyfer 2011-12.
“Yr hyn maen nhw’n gwneud yw cymryd arian o gyllid 2012-13 i guddio eu diffygion ariannol yn 2011-12.”
£145m ychwanegol
Dywedodd Lesley Griffiths ei bod hi wedi esbonio mai “rheolwyr y GIG fyddai’n atebol am reoli arian yn eu sefydliadau, gyda chamau cryf yn cael eu cymryd pe na bai targedau ariannol yn cael eu cyrraedd.”
“Er mwyn rhoi terfyn ar ddibyniaeth ar gymorth ariannol diwedd blwyddyn, rhoddodd Llywodraeth Cymru £145 miliwn ychwanegol i’r GIG ym mis Hydref, gan rybuddio na fyddai cymorth ychwanegol yn ystod y flwyddyn ariannol,” dywedodd y Gweinidog Iechyd.
“Yn ogystal â chyflawni’r gyllideb, mae sefydliadau’r GIG hefyd wedi llwyddo i arbed £290 miliwn yn ystod y flwyddyn. Maen nhw wedi llwyddo i wneud hyn gan gyflawni perfformiad clinigol, fel trin dioddefwyr strôc yn gynt a lleihau achosion o aildderbyn cleifion brys i’r ysbyty.
“Doedd hyn byth am fod yn hawdd ac rydyn ni wedi caniatáu i dri o’r saith Bwrdd Iechyd Lleol ddwyn canran fechan o gyllid y flwyddyn nesaf i helpu i gyrraedd eu targedau. Dim ond 0.2% o gyllideb y GIG sy’n cael ei ddwyn ymlaen, ac rwy’n falch o ddweud bod y ddysgl yn wastad yn 2011-12.”
‘Ymgais i guddio methiannau’
Ymosododd Plaid Cymru ar “ymgais Llafur i guddio methiannau”. Ychwanegodd llefarydd cyllid y blaid, Ieuan Wyn Jones, fod y newydd yn ymgais gan y Llywodraeth i “gamarwain pobol i feddwl fod y Byrddau Iechyd wedi cadw o fewn eu cyllideb.”
“Rwyf wedi codi mater camreolaeth ariannol ein Byrddau Iechyd ers misoedd, a nawr mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod mynd i’w hachub nhw.
“Mae Llafur yn bwriadu israddio ysbytai a chanoli gwasanaethau craidd yn hytrach na mynd i’r afael â’r gamreolaeth sy’n creu’r problemau hyn.”