Yr Arlywydd Barack Obama
Cafodd saith o bobl eu lladd ar ôl i fom ffrwydro mewn car ym mhrifddinas Afghanistan heddiw.

Dywed y Taliban mai nhw oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad yn Kabul a’u bod yn ymateb i ymweliad annisgwyl gan yr Arlywydd Barack Obama oriau’n gynt.

Cafodd o leiaf 17 o bobl eu hanafu yn yr ymosodiad, y rhan fwyaf ohonyn nhw yn blant oedd ar eu ffordd i’r ysgol.

Fe ddechreuodd yr ymosodiad ar ganolfan sy’n gartref i dramorwyr oriau’n unig ar ôl i’r Arlywydd Obama adael Afghanistan ar ôl ymweliad i nodi blwyddyn ers marwolaeth Osama bin Laden.