Llys y Goron Casnewydd
Bydd llofrudd a gafodd ei ganfod yn euog ddoe o ladd ei gymydog yng Nghwm Rhymni yn cael ei garcharu am oes heddiw am yr ail dro.
Cafodd David Cook ei ddedfrydu i oes o garchar yn 1988 am ladd athrawes ysgol Sul, Beryl Maynard, mewn lladrad treisgar. Ddoe penderfynoddd y rheithgor yn Llys y Goron Casnewydd ei fod yn euog o dagu ei gymydog Leonard Hill yn y Rhymni ar 13 Mehefin y llynedd.
Cafodd David Cook, 65, ei ryddhau o’r carchar ar drwydded yn 2009 ar ôl treulio 21 mlynedd dan glo, a symudodd i fyngalo drws nesaf i Leonard Hill ddeg wythnos cyn y llofruddiaeth.
Mae teulu Leonard Hill wedi dweud bod ffaeleddau yn y gwasanaeth prawf wedi arwain at y llofruddiaeth.
Defnyddiodd David Cook wifren deledu i grogi Leonard Hill ar ôl ei glymu a’i gagio ac roedd y llofruddiaeth yn debyg iawn i’r modd yr oedd Cook wedi llofruddio Beryl Maynard yn swydd Berkshire yn 1987, ble defnyddiodd cortyn i’w thagu a’i lladd.
Roedd gan Cook ddyledion a dyna oedd y cymhelliad dros y ddwy lofruddiaeth. Yn ystod yr achos llys cyfaddefodd Cook ei fod wedi lladd a dwyn arian yn y gorffennol, ond honnodd ei fod wedi lladd Leonard Hill ar ôl i’w gymydog gyffwrdd ag ef yn anweddus ac nad oedd yn ei iawn bwyll ar y pryd.
Ychydig dros awr a gymrodd y rheithgor ddoe i’w ganfod yn euog.
Heddiw bydd yr ustus farnwr Griffith Williams yn dedfrydu David Cook i garchar a bydd yn gosod isafswm cyfnod y bydd yn rhaid i Cook ei dreulio dan glo.