Nicolas Sarkozy
Mae’r Sosialydd Francois Hollande wedi ennill y rownd gyntaf yn etholiadau arlywyddol Ffrainc, yn ôl yr amcangyfrifon cyntaf.
Daeth yr Arlywydd presennol, Nicolas Sarkozy, yn ail â 26%, tra bod Hollande ychydig ar y blaen â 28%.
Daeth yr ymgeisydd adain dde eithafol, Marine Le Pen, yn drydydd â 20% o’r bleidlais.
Roedd deg ymgeisydd yn y rownd gyntaf. Fe fydd y ddau sy’n weddill yn wynebu ei gilydd yn yr ail rownd ar 6 Mai.
Cyhoeddwyd yr amcangyfrif gan gyfryngau Ffrainc pan ddaeth y pleidleisio i ben am 8pm (6pm amser Cymru).
Dyma’r tro cyntaf i arlywydd oedd yn ceisio cael ei ail-ethol fethu ag ennill y rownd gyntaf ers dechrau’r Pumed Weriniaeth yn 1958.