Mae teulu dynes fu farw mewn gwrthdrawiad car wedi cyhoeddi teyrnged iddi heddiw.

Fe fuodd Ceri Lyn Jones, 34, farw ar ôl gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd yn Neiniolen.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A4244 ger Llanberis brynhawn ddoe, am 1.20pm. Roedd Land Rover wedi taro Mercedes Ceri Lyn Jones.

Aethpwyd a dau berson arall oedd wedi eu hanafu i’r ysbyty, ond dyw eu hanafiadau ddim yn peryglu eu bywydau. Bu’n rhaid  i ddiffoddwyr tân dorri un person allan o’r Land Rover.

Dywedodd teulu Ceri Lyn Jones ei bod hi’n “caru bywyd” ac “yn hoffi bod wrth galon y parti”.

“Fe fydd teithio ar hyd y ffordd yna yn anodd iawn o hyn ymlaen,” medden nhw. “Dydyn ni ddim yn gallu credu beth sydd wedi digwydd.”

Dywedodd ei mam Val, sy’n gweithio yn y Spar ar Y Maes yng Nghaernarfon, fod y newyddion yn “sioc ofnadwy”.

“Dyw’r un rhiant yn disgwyl gorfod claddu eu plentyn. Mae bywyd yn ofnadwy o annheg. Roedd Ceri yn brydferth iawn.”

Cafodd ei magu ar ystâd Nant y Glyn, Llanrug, a mynychodd Ysgol Gynradd Llanrug, Ysgol Brynrefail ac Ysgol Syr Hugh Owen. Roedd hi’n gweithio i’w thad Raymond yn ei swyddfa bost yn Llanberis am gyfnod, ac yna bysiau KMP.

Roedd hi wedi gweithio i’r Cyngor Cefn Gwlad Cymru ym Mangor, cyn symud i Gaerdydd ac yn ôl wedyn er mwyn gweithio i Lywodraeth Cymru yn eu swyddfa yn Llandudno.

Dylai unrhyw un a welodd beth ddigwyddodd ffonio’r heddlu ar 101.