Yr Arlywydd Bashar Assad
Mae’n ymddangos y bydd y cadoediad oedd i fod i ddod i rym yn Syria heddiw yn methu, ar ôl i luoedd y wlad ymosod ar ddwy ffin, gan ladd newyddiadurwr yn Lebanon ac o leia dau o bobl mewn gwersyll i ffoaduriaid yn Nhwrci.

Yn ôl adroddiadau, cafodd mwy na 125 o bobl eu lladd yn ystod y deuddydd diwethaf wrth i’r trais waethygu.

Mae’r Unol Daleithiau wedi ymateb yn llym i’r trais diweddaraf gan ddweud mai ychydig iawn o ymrwymiad sydd gan Lywodraeth Syria i’r cynllun heddwch gafodd ei drafod gyda chyn bennaeth y Cenhedloedd Unedig Kofi Annan.