Fe fydd barnwyr yn Ewrop heddiw yn dyfarnu a ddylai Llywodraeth San Steffan gael yr hawl i anfon y clerigwr radical Abu Hamza  i’r Unol Daleithiau i wynebu cyhuddiadau yn ymwneud â therfysgaeth.

Mae’r clerigwr Moslemaidd, sydd wedi bod dan glo ym Mhrydain, ac eraill, yn dadlau ei bod yn bosib y byddan nhw’n cael eu camdrin os ydyn nhw cael eu hanfon i’r Unol Daleithiau.

Mae na bryderon  cynyddol am ddyfarniadau o Strasbourg gyda gweinidogion yn honi y gallai beryglu diogelwch cenedlaethol.

Roedd Llys Iawnderau Dynol Ewrop wedi atal trefniadau i estraddodi Abu Hamza ym mis Gorffennaf 2010 gan ddadlau bod angen rhagor o amser i ystyried cwynion y gallai anfon Hamza ac eraill i’r UDA, beryglu eu hawliau dynol.