Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi heddiw bod cynghrair newydd wedi cael ei ffurfio er mwyn craffu ar y berthynas rhwng y BBC ac S4C.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud y bydd y grŵp craffu, sy’n cynnwys undebau a mudiadau iaith, yn ceisio gwarchod buddiannau S4C dan y drefn gyllido newydd sy’n rhoi’r sianel yn nwylo’r BBC.

Daeth llawer o aelodau’r grŵp at ei gilydd yn y lle cyntaf yn sgil y bartneriaeth ymgyrchu a ffurfiwyd y llynedd i wrthwynebu toriadau i gyllideb S4C.

Bwriad y grŵp newydd yw gweithio i “amddiffyn S4C a’i hannibyniaeth,” meddai Cymdeithas yr Iaith, yn ogystal â “goruchwylio safon y diwydiant teledu yng Nghymru.”

BECTU

Ymhlith aelodau eraill y grŵp mae undeb y cyfryngau ac adloniant, BECTU, ac Undeb yr Ysgrifenwyr.

Yn ôl Madoc Roberts o BECTU, mae’r grŵp yn bwriadu “cadw llygaid barcud ar safon y diwydiant teledu yng Nghymru ac i graffu ar y berthynas rhwng S4C a’r BBC.

“Menter gadarnhaol yw hon,” meddai, “gyda’r bwriad o sicrhau fod S4C yn cynnig y ddarpariaeth gorau posibl i’w gwylwyr.

“Bydd y grŵp yn galluogi unrhyw un sydd yn pryderu am ddyfodol darlledu yng Nghymru i godi unrhyw bryder sydd ganddynt.”

Mae Cymdeithas hefyd yn dweud y bydd y grŵp yn cadw llygad ar y toriadau i ddarlledu yng Nghymru drwyddi draw, yn enwedig gyda thoriadau i wasanaethau Cymreig y BBC ar y gorwel.

“Fe wnaeth  Llywodraeth Prydain addo na fyddai’r BBC yn traflyncu S4C ac na fyddai’r berthynas rhwng y ddau ddarlledwr yn gwneud niwed i safon cynhyrchu yng Nghymru,” meddai Madoc Roberts.

“Mae’r ddau ddarlledwr yn wynebu toriadau mawr felly rydym yn awyddus iawn i sicrhau nad yw hyn yn cael effaith negyddol ar safon y cynyrchiadau.”

‘Craffu’

Wrth gyhoeddi  ffurfio’r grŵp newydd heddiw, dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, fod y gwaith craffu yn barhad i’r gwaith ymgyrchu a fu’r llynedd.

“Drwy ein hymgyrch llynedd fe wnaethom sicrhau fod rhyw fath o ddyfodol i’r Sianel, ond mae ei dyfodol yn ansicr o hyd,” meddai.

“Cyfaddawd yn unig a gafwyd ar gyfer S4C felly mae’r gwaith yn parhau er mwyn sicrhau fod S4C yn parhau i gyfrannu at ddiwylliant llewyrchus a chreadigol darlledu.”

Bydd y grŵp craffu yn cael eu cyfarfod cyntaf ddydd Mercher nesaf, 18 Ebrill.