Michael Sheen a Rachel McAdams (Tim Ireland/PA)
Roedd sêr Hollywood ym Mhort Talbot ddoe ar gyfer dangosiad cyntaf swyddogol ffilm newydd Michael Sheen, The Gospel Of Us.

Cyrhaeddodd yr actor â’i gariad Rachel McAdams er mwyn gwylio’r ffilm a saethwyd yn y dref dros benwythnos y Pasg y llynedd.

Er iddo wneud enw i’w hun yn Nhre’r Tinsel, dywedodd Michael Sheen nad oedd wedi anghofio ei fagwraeth yn yr ardal.

Mae The Gospel Of Us yn fersiwn ffilm o’r ddrama tri diwrnod The Passion, sy’n trawsblannu hanes croeshoeliad Iesu Grist i’r oes fodern.

Roedd y ddrama yn cynnwys dros 1,000 o actorion, ac fe heidiodd dros 15,000 o bobol o bob cwr o’r byd i’w wylio.

Dywedodd Michael Sheen ei fod yn falch bod y ffilm wedi ei ddangos ar Ddydd Sul y Pasg yn y dref oedd wedi bod yn hwb i’r yrfa actio.4

“Dyma fy nghartref i, a’r dref a’m helpodd i gyrraedd lle’r ydw i nawr,” meddai.

“Mae’r bobol yma wedi bod yn hynod gefnogol drwy gydol fy oes ac wedi fy helpu i gyflawni popeth.

“Rydw i’n teimlo bod dod yn ôl yma yn gyfle i adfer o’r newydd.

“Mae yna gymaint o addewid yma. Rydw i wedi cael llawer mwy gan y dref yma nag ydw i wedi ei roi yn ôl.

“Doedd gennym ni ddim syniad y byddai The Passion mor boblogaidd. Doedd gennym ni ddim syniad cymaint o bobol fyddai yn dod i wylio.

Wrth eu bodd

Dywedodd rheolwyr sinema Apollo y dref lle y dangoswyd y ffilm eu bod nhw wrth eu bodd yn cael cymryd rhan yn y premiere.

“Rydyn ni wedi gorfod agor pob un o’r chwe sgrin oherwydd bod y gofyn am docynnau mor uchel, ac rydyn ni wedi gwerthu bron i bob un,” meddai’r is-reolwr, Eve Carter.

“Mae e hyd yn oed yn fwy poblogaidd eleni nag oedd e’r Pasg diwethaf. Dw i’n credu fod pobol eisiau gweld eu hunain ar y sgrin.”

Dywedodd Maer Port Talbot, Harry Bebell, bod y ffilm wedi rhoi enw da i Bort Tlabot ledled y byd.

“Mae wedi bod yn hysbyseb gwych i’r dref a’r gobaith yw y bydd yn denu twristiaid,” meddai.

Bydd The Gospel of Us yn cael ei ddangos ledled Prydain o 13 Ebrill ymlaen.