Fe fydd drama Michael Sheen o stori’r Pasg yn cael ei ddangos ar ffurf ffilm am y tro cyntaf ym Mhort Talbot, heddiw.

Y llynedd heidiodd 10,000 o bobol o bob cwr o’r byd i’r dref i weld y seren a dros 1,000 o actorion eraill yn ail-greu’r croeshoeliad dros gyfnod o dri diwrnod.

Ysbrydolwyd Michael Sheen i greu The Passion, cydweithrediad rhwng National Theatre Wales a WildWorks, ar ôl gwylio dramâu oedd yn dangos dioddefaint Iesu Grist ym Mharc Margam pan oedd yn blentyn.

Cydweithiodd â’r ysgrifennwr o Gymru, Owen Sheers, ar sgript a ysbrydolwyd gan hanes y Pasg ond sydd wedi ei leoli ym Mhort Talbot.

Flwyddyn yn ddiweddarach, mae’r perfformiad 72 awr gwreiddiol wedi ei dorri i lawr i un ffilm o’r enw  The Gospel Of Us, a fydd yn cael ei ddangos am y tro cyntaf ym Mhort Talbot y prynhawn ma.

Dywedodd y cynhyrchydd Eryl Huw Phillips, sy’n gweithio i Rondo Media, ei fod yn brosiect uchelgeisiol ac yn her anferth.

“Roedden ni’n defnyddio camerâu oedd yn ysgafn a symudol ac roedd sawl digwyddiad gwahanol i’w ffilmio dros gyfnod o dri diwrnod,” meddai. “Roedd hi fel ymgyrch filwrol.

“Roedd beth oedd y cwmni theatr wedi ei gyflawni yn hynod uchelgeisiol, ond roedd gwneud ffilm ar ben hynny bron a bod yn wallgof.

“Ond diolch byth mae wedi bod yn llwyddiant mawr.”

Bydd dangosiad cyntaf y ffilm yn digwydd am 7pm heddiw.