Darlun o wefan Wikipedia o bobl draddodiadol grwydrol y Tuareg yn y Sahara
Mae gwrthryfelwyr o blith pobl Tuareg yn anialwch y Sahara wedi cipio rheolaeth o ogledd Mali a datgan annibyniaeth i’w cenedl –  Azawad.

Mewn datganiad ar wefan y gwrthryfelwyr dywedir: “Rydym ni, bobl yr Azawad, yn datgan annibynniaeth gwladwriaeth Azawad, gan ddechrau o heddiw, ddydd Gwener Ebrill 6 2012.”

Pobl draddodiadol grwydrol yw’ r Tuareg, pobl o grŵp ethnig goleuach eu croen na’r grwpiau ethnig croen tywyll yn ne’r wlad sy’n rheoli’r brifddinas Bamako.

Maen nhw wedi bod yn pwyso am annibyniaeth i hanner gogleddol Mali ers o leiaf 1958, pan wnaeth eu harweinwyr ysgrifennu llythyr at arlywydd Ffrainc, a oedd yn rheoli’r wlad bryd hynny, ffurfio gwlad ar wahân  ar eu cyfer.

Ond yn lle hynny, cafodd y gogledd a’r de ei ffurfio’n un wlad.

‘Camlywodraethu’

Ers i lywodraeth etholedig Mali gael ei dymchwel bythefnos yn ôl, mae arweinwyr y Tuareg wedi gallu manteisio ar y sefyllfa a chipio grym yn nhair ddinas fwyaf y gogledd.

Mae eu datganiad annibyniaeth yn cyfeirio at 50 mlynedd o ‘gamlywodraethu’ gan dde’r wlad, a chafodd ei gyhoeddi gan y Mudiad Cenedlaethol dros Ryddid Azawad, y mae ei fyddin yn cael ei harwain gan gyrnol Tuareg a arferai ymladd ym myddin y diweddar Muammar Gaddafi yn Libya.

Mae’r mudiad yn un seciwlar a’i nod yw creu gwladwriaeth i’r bobl Tuareg.