Mae byddin Israel wedi cau’r ffin â Glan Orllewinol yr Iorddonnen ar gyfer deuddydd cyntaf y Pasg Iddewig, a gychwynnodd ar fachlud haul neithiwr.
O dan y gwaharddiad, ni chaniateir i unrhyw Balestiniaid groesi i Israel ac eithrio’r rhai ac arnyn nhw angen gofal meddygol, meddai’r fyddin. Bydd y gwaharddiad yn cael ei godi nos yfory am hanner nos.
Mae Israel yn cau Glan Orllewinol yr Iorddonnen yn rheolaidd yn ystod gwyliau Iddewig pan fydd torfeydd mewn synagogau a mannau cyhoeddus eraill yn fwyaf agored i ymosodiadau posibl gan wrthryfelwyr Palestinaidd.
Ddeng mlynedd yn ôl, cafodd 29 o bobl eu lladd ar wylnos y Pasg Iddewig wrth iddyn nhw eistedd i lawr i wledd draddodiadol mewn gwesty yn nhref lan-môr Netanya.