Llongddrylliad llanddulas (Llun PA)
Mae ffordd yr A55 ger Llanddulas bellach wedi ailagor yn llwyr ar ôl y llongddrylliad nos Fawrth.
Fe fu’n rhaid cau’r ffordd ddeuol brysur i wneud lle i hofrennydd lanio i achub y criw o saith oddi ar y llong MV Cargo. Er iddi agor yn rhannol y bore wedyn, mae tagfeydd wedi bod arni drwy fod un o’r lonydd wedi cau tan heddiw.
Meddai llefarydd ar rhan yr Asiantaeth Priffyrdd:
“Mae dwy lôn yr A55 bellach wedi ailagore rhwng Cyffordd 22 a Chyffordd 23 ac mae disgwyl iddyn nhw barhau’n agored ar gyfer y penwythnos Gŵyl y Banc.”
Roedd y llong, a gofrestrwyd yn Antigua a Barbuda, ac oedd yn cludo cargo o gerrig, bellach yn gorwedd yn erbyn blociau o goncrid ar draeth Llanddulas.
Dechreuwyd ar y gwaith ddoe o dynnu ymaith tua 35 tunnell o danwydd o’r llestr, a dywed perchnogion y llong y bydd y contractwyr yn gweithio 24 awr y dydd tan y byddan nhw wedi cwblhau’r gwaith.
Cyfyngiadau cyflymder
Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu’r Gogledd y bydd cyfyngiadau cyflymder o 40 mya yn y ddau gyfeiriad ar yr A55 tra bydd y gwaith o symud y tanwydd yn parhau. Fe fydd y llwybr beicio rhwng Llanddulas a Hen Golwyn wedi cau hefyd.
“Hoffwn ddiolch i’r gymuned leol ac i ddefnyddwyr yr A55 am eu hamynedd a’u cydweithredu, a’u sicrhau nhw ein bod ni’n gweithio cyn gyflymed â phosib i ddatrys y mater,” meddai.
Mae gwaharddiad o 100 metr ar y môr hefyd o gwmpas y llong, a chaiff pysgotwyr a defnyddwyr jet-ski a chychod pleser eu rhybuddio i gadw draw.