Barack Obama
Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, wedi cymeradwyo gweithredu sancsiynau newydd ar y gwledydd sy’n prynu olew o Iran.

Mae’n golygu y gall yr Unol Daleithiau weithredu yn erbyn banciau o dramor sy’n parhau i ddelio ag olew o Iran.

Dywedodd Mr Obama y byddai’r cynghreiriaid sy’n boicotio olew o Iran ddim yn dioddef oherwydd bod digonedd o olew ar gael ar y farchnad ryngwladol.

Mae pryder ymysg gwledydd y Gorllewin fod Iran yn datblygu arf niwclear ond mae’r wlad yn mynnu bod eu rhaglen cyfoethogi niwclear yn heddychlon.

Bydd y mesurau newydd yn rhoi pwysau ar wledydd sy’n mewnforio llawer o olew o Iran fel De Korea, India, China, Twrci a De Affrica.

Ond mae swyddogion y llywodraeth o’r Unol Daleithiau wedi gwrthod dyfalu pa effaith y caiff y sancsiynau hyn ar bris olew ar draws y byd.