Jean-Paul Guerlain
Mae cynhyrchydd persawr enwog yn Ffrainc wedi ei ddedfrydu gan lys ym Mharis ar ôl gwneud sylw hiliol.

Roedd Jean-Paul Guerlain, 75, sy’n etifedd i gwmni persawr Guerlain, wedi sarhau pobl groenddu mewn cyfweliad teledu wrth ddisgrifio pa mor galed y bu’n gweithio.

Rhoddodd y llys ddirwy o 6,000 ewro iddo.

Yn ystod yr achos ymddiheurodd  Jean-Paul Guerlain am y sylw “ynfyd”. Ychwanegodd ei fod yn dod o genhedlaeth hŷn a bod y sylw wedi bod yn dderbyniol ar un adeg.