Angelika Dries-Jenkins
Mae dyn laddodd pensiynwraig er mwyn cael digon o arian i dalu am ei briodas wedi ei garcharu am o leiaf 30 mlynedd heddiw ar ôl i lys ei gael yn euog o lofruddiaeth.
Roedd John Mason, 55, wedi arteithio Angelika Dries-Jenkins am o leiaf pum munud cyn gorfodi iddi roi rhif PIN ei cherdyn banc iddo.
Cafodd y wraig weddw 66 oed ei churo’n greulon yn ei chartref yn Arberth, Sir Benfro, yn ystod yr ymosodiad fis Mehefin y llynedd.
Myfyriodd rheithgor yn Llys y Goron Abertawe am lai na dwy awr cyn penderfynu ei fod yn euog, ar ddiwedd achos llys pythefnos o hyd.
Roedd John Mason, oedd yn byw ar £100 o fudd-daliadau bob pythefnos, wedi mynd i fesur modrwy briodas ar ôl y llofruddiaeth.
Roedd hefyd wedi prynu pâr newydd o sgidiau â’r arian yr oed wedi ei ddwyn i dalu am briodas â’i ddyweddi Denise Evans naw diwrnod yn ddiweddarach.
Ond cafodd ei arestio am lofruddiaeth o fewn wythnos a ni ddigwyddodd y briodas.
Cafodd ei garcharu am oes gan yr Ustus Wyn Williams heddiw, a’i rybuddio ei fod yn debygol o dreulio gweddill ei oes yn y ddalfa.
Dywedodd hwnnw fod yr ymosodiad ar Angelika Dries-Jenkins yn “lofruddiaeth greulon a dideimlad”.
“Fe wnaethoch chi ladd dynes garedig ac annwyl yn ei chartref ei hun, fel eich bod chi’n gallu dwyn ei harian,” meddai.
Ar ôl y ddedfryd heddiw clywodd y rheithgor bod gan John Mason hanes hir o drais ac wedi torri’r gyfraith sawl gwaith yn y gorffennol.