Un o awyrennau Nato yn Libya
Roedd Nato a gwylwyr y glannau Môr y Canoldir ar fai am fethu â ag achub cwch llawn ffoaduriaid a aeth i drafferthion yn ystod yr ymgyrch filwrol yn Libya.
Dyna gasgliad adroddiad gan bwyllgor yng Nghyngor Ewrop.
Bu farw 63 o’r 72 o bobl oedd ar fwrdd y cwch a fu’n arnofio heb bŵer am bythefnos ar ôl i’r injan fethu.
Ar fwrdd y cwch roedd ffoaduriaid Affricanaidd oedd wedi bod yn gweithio yn Libya ac a oedd yn dianc o’r anghydfod yno.
Roedd gan Nato longau rhyfel ac awyrennau yn yr ardal ar y pryd er mwyn dwyn cyrch yn erbyn llywodraeth Libya.
Yn ôl yr adroddiad roedd hofrennydd wedi gollwng bisgedi a dŵr i’r ffoaduriaid ond heb ddychwelyd i’w ahachub.
Anwybyddodd llong filwrol alwadau’r cwch am help.
Llithrodd y cwch yn ôl i gyfeiriad Libya ond bu farw’r rhan fwyaf o bobl o ganlyniad i syched.
Gwadodd Nato’r cyhuddiadau, gan ddweud eu bod nhw wedi achub dros 600 o bobl yn y ystod y cyfdnod dan sylw.
“Does dim record bod unrhyw un o gychod neu awyrennau Nato wedi gwneud cyswllt â’r cwch penodol hwn,” meddai Oana Lungescu, llefarydd ar ran Nato.
Beirniadodd yr adroddiad yr Eidal a Malta hefyd am fethu ag achub y cwch er bod gwylwyr eu glannau nhw wedi lleoli lleoliad y cwch.
“Aeth neb i helpu’r cwch yma” meddai’r adroddiad.
Dywedodd mudiad hawliau dynol Amnest Rhyngwladol bod angen “dwyn i gyfrif pwy bynnag fu’n gyfrifol am y digwyddiad trasig hwn”.