Heddlu Denmarc
Mae dyn o Somalia wedi ei garcharu am naw mlynedd ar ôl torri i mewn i gartref cartwnydd o Ddenmarc oedd wedi creu gwawdlun o’r Proffwyd Muhammad.
Penderfynodd Llys Dinas Aarhus heddiw y dylai Muhideen Mohammed Geelle gael ei alltudio ar ôl cwblhau ei ddedfryd.
Roedd y dyn 29 oed wedi torri i mewn i gartref Kurt Westergaard â bwyell ar Ddydd Calan 2010.
Cuddiodd y cartwnydd mewn ystafell gudd a ni chafodd ei anafu. Cyrhaeddodd yr heddlu a saethu Muhideen Geelle yn ei goes.
Cafwyd Muhideen Geelle yn euog ddoe.
Roedd cartŵn Kurt Westergaard yn un o 12 o’r Proffwyd Muhammad a gyhoeddwyd mewn papur newydd Danaidd ym mis Medi 2005.
Arweiniodd y cartwnau at brotestio ffyrnig ar draws y byd Mwslimaidd pedwar mis yn ddiweddarach.