Mae’r Heddlu yn galw am wybodaeth ar ôl i gerddwr 44 blwydd oed farw yn dilyn gwrthdrawiad â cherbyd ym Mhensarn neithiwr.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Coast Road, Pensarn, toc cyn 6pm, ger siop bwcis William Hill.

Aethpwyd a’r dyn i Ysbyty Glan Clwyd ac fe fu farw’n ddiweddarach.

Mae’r crwner a’i deulu wedi cael gwybod.

Mae’r heddlu’n awyddus i siarad ag unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad.

“Rydyn ni’n galw i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda ni cyn gynted â phosibl,” meddai’r Heddlu.

Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru ar 101 os yng Nghymru neu 0845 6071001,yrru neges at 66767 neu ffonio Taclo’r Tacle’n ddienw ar 0800555111.