Mae un o filwyr America yn Afghanistan wedi cael ei arestio wedi iddo adael ei wersyll  yn ystod y nos a saethu pobl yn eu tai.

Dywed llywodraethwr ardal Panjwai yn Kandahar fod o leiaf 16 o bobl wedi cael eu lladd a’u hanafu yn yr ymosodiad.

Dywedodd Justin Brockhoff, llefarydd ar ran lluoedd Nato, fod un o filwyr America wedi cael ei arestio, ond gwrthododd roi manylion am y digwyddiad. Dywedodd fod y bobl a gafodd eu hanafu’n cael triniaeth yng nghanolfannau meddygol Nato.

Mae’r milwr yn cael ei gadw yn un o ganolfannau Nato, ac mae lluoedd America yn ymchwilio i’r saethu mewn cydweithrediad ag awdurdodau Afghanistan. Nid yw’n eglur eto a oedd y milwr yn adnabod y bobl a gafodd eu saethu ganddo.