Bashar Assad, Arlywydd Syria (Agencia Brasil CCA 2.5)
Mynd o ddrwg i waeth mae’r ymladd yn Syria er gwaethaf ymdrechion cennad y Cenhedloedd Unedig Kofi Annan i geisio heddwch yn y wlad.
Wrth i Kofi Annan gynnal rhagor o drafodaeth â’r arlywydd Bashar Assad heddiw, mae lluoedd y llywodraeth wedi lansio ymosodiad ar un o gadarnleoedd y gwrthryfelwyr yng ngogledd Syria.
Fe ddywedodd yr Arlywydd Assad wrth Kofi Annan ddoe fod ateb gwleidyddol i’r anghydfod yn amhosibl tra bydd “grwpiau terfysgol” yn bygwth y wlad.
Mae arweinwyr y gwrthwynebwyr hefyd wedi gwrthod deialog, gan ddweud bod trafodaethau’n amhosibl ar ôl i luoedd y llywodraeth ladd dros 7,500 o bobl dros y flwyddyn ddiwethaf.
Presenoldeb milwrol
Roedd lluoedd llywodraeth Syria wedi cynyddu presenoldeb milwrol ers rhai dyddiau o gwmpas Idlib, prifddinas rhanbarth amaethyddol mynyddig gerllaw’r ffin â Thwrci sydd wedi bod yn gadarnle i brotestwyr yn erbyn cyfundrefn Assad.
Mae tanciau’r fyddin wedi bod yn tanio at y dref wrth i’r milwyr symud i’w hamgylchynu, ac mae teuluoedd wedi gorfod cuddio neu ffoi o’u cartrefi.
Wrth i’r wlad symud fwyfwy tuag at ryfel cartref, pryder llawer yw y bydd yr ymosodiad ar Idlib yn creu’r un math o gyflafan ag yn Homs, y ddinas yng nghanol y wlad lle cafodd cannoedd eu lladd cyn i’r llywodraeth ei hailgipio ddechrau’r mis.