Mae Heddlu Gwent yn apelio am dystion i ddigwyddiad yng Nghwmbrân neithiwr pan fu farw dyn lleol 59 oed ar ôl cael ei daro gan gar.
Roedd y dyn yn cerdded ar yr A4051 tuag at ganol y dref cyn cyrraedd cylchfan Pontrhydyrun tua 7 o’r gloch neithiwr pan fu mewn gwrthdrawiad â char Skoda Octavia.
Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un â gwybodaeth eu ffonio ar 101.