Lladdwyd o leiaf 26 o bobl wedi i fom ffrwydro mewn car y tu allan i gompownd Arlywydd Yemen oriau yn unig wedi i’r Arlywydd newydd,
Yemen
 Abed Rabo Mansour Hadi gael ei urddo.

Digwyddodd yr ymosodiad yn ninas al-Mukalla sydd yn ne’r wlad ac mae’n debyg mai milwyr sy’n gwarchod yr Arlywydd yw rhan fwyaf o’r rhai syddd wedi eu lladd.

Mae Abed Rabo Mansour Hadi yn olynu Ali Abdullah Saleh fu’n arlywydd Yemen am 33 o flynyddoedd ond gollodd y swydd wedi etholiadau diweddar.

Mr Hadi oedd y Dirprwy Arlywydd ond cafodd ei ddewis yn arlywydd wedi blwyddyn o drafferthion gwleidyddol yn Yemen.

Mae gwrthryfelwyr sydd eisiau gweld de Yemen yn annibynnol a gwrthryfelwyr Islamaidd yn weithredol yn ardal al-Mukalla ers tro ond does neb wedi hawlio cyfrfioldeb am y ffrwydriad hyd yma.