Priodas hoyw
Mae gan y llywodraeth yr hawl i gyfreithloni priodas rhwng pobl o’r un rhyw yn ôl Gweinidog Cydraddoldeb Llywodraeth San Steffan.

Mewn erthygl yn y Daily Telegraph, dywed Lynne Featherstone sy’n Ddemocrat Rhyddfrydol, mai gwaith y llywodraeth yw adlewyrchu cymdeithas a ffurfio’r dyfodol, nid aros yn fud pan mae ganddi’r grym i weithredu a newid pethau am y gorau.

Yn hyn o beth nid yr Eglwys ond y bobl felly sydd ‘biau’ priodas a does gan yr Eglwys ddim hawl egsliwsif i ddweud pwy all briodi, ychwanegodd.

Roedd Ms Featherstone yn ymateb i sylwadau cyn Archesgob Caergaint yr Arglwydd Carey oedd wedi dweud  y buasai cyfreithloni priodas un-rhyw yn “weithred o fandaliaeth diwyllanol a diwynyddol”.

Apeliodd Ms Featherstone hefyd ar bobl i beidio polerieddio’r drafodaeth am briodasau un-rhyw.

“Nid brwydr rhwng hawliau hoyw a hawliau crefyddol ydi hyn,” meddai. “ Mae hyn oll ynglyn â‘r egwyddorion sy’n sylfaen i ryddid teuluol, cymdeithasol a phersonol,” meddai.