Charlie Chaplin
Roedd yr FBI yn chwilio am dystiolaeth er mwyn cael gwahardd Charlie Chaplin o’r Unol Daleithiau, yn ôl gwybodaeth a gyhoeddwyd gan Archifdy Cenedlaethol y wlad ddydd Gwener.

Roedd gan yr FBI dan J Edgar Hoover ffeil â dros 2,000 o dudalennau ynddo yn trafod Chaplin.

Roedd M15 hefyd yn cadw llygad arno. Ysgrifennodd un o swyddogion y gwasanaeth cudd-wybodaeth yn 1952 bod yr actor “wedi rhoi cyllid i fudiadau comiwnyddol dirgel”.

Doedd MI5 fodd bynnag ddim yn credu ei fod yn fygythiad, ac o’r farn fod ei enw

wedi ei bardduo gan ddilynwyr McCarthiaeth.

Mae ffeiliau eraill yn datgelu fod George Orwell wedi darparu rhestr i’r Swyddfa Dramor, oedd yn enwi Chaplin ymysg 35 o “grypto-gomiwnyddion”.

Roedd yr FBI yn awyddus iawn i MI5 ddarganfod lle’r oedd Chaplin wedi ei eni, ac i ddarganfod os mai Israel Thornstein oedd ei enw iawn.

Ond yn ôl MI5 doedd yna “ddim tystiolaeth mai Israel Thornstein oedd enw gwreiddiol Chaplin.” Daeth ddim byd ychwaith o’r ymchwiliad i weld a oedd Chaplin wedi ei eni yn Ffrainc.

Roedd MI5 wedi methu darganfod unrhyw dystiolaeth am enedigaeth Chaplin yn Somerset House, safle cofrestr genedigaethau Prydain ar y pryd.

“Mae’n ymddangos bod Chaplin naill ai heb ei eni yn y wlad yma, neu wedi ei eni ag enw gwahanol,” penderfynodd yr adroddiad.

Credir tan yn ddiweddar fod Chaplin wedi ei eni yn Walworth, de Llundain, ar Ebrill 16eg, 1889.

Ond yn ddiweddar daeth llythyr i’r amlwg ymysg papurau’r teulu sy’n honni fod Chaplin wedi ei eni mewn carafán sipsiwn “ar y Black Patch yn Smethwick ger Birmingham”.