Clawr albwm Discopolis
Mae’r grŵp pop Cymraeg, Clinigol, yn cynnal parti lansio ar gyfer eu halbwm newydd Discopolis yng Nghaerdydd heno.

Mae’r lansiad yn cael ei gynnal yn Ten Feet Tall yn y brifddinas ac mae’n addo bod yn dipyn o barti.

Yn ôl pob tebyg, Discopolis yw’r albwm dwbl gwreiddiol gyntaf erioed yn yr iaith Gymraeg.

Yn ogystal â’r aelodau craidd, Geraint ac Aled Pickard, mae’n cynnwys cyfraniadau gan naw ‘difa’ sy’n benthyg eu lleisiau i’r traciau.

Wrth siarad â Golwg360 heddiw, roedd Geraint Pickard yn edrych ymlaen yn fawr at y gig lansio.

“Dim byd penodol…” meddai wrth gael ei holi am gynlluniau’r noson “dim ond y bydd hi’n noson a hanner!”

“Digon o diwns, digon o divas…a bwffe losin retro!”

Ymysg y rhai sy’n canu ar yr albwm newydd mae Caryl Parry Jones, Elin Fflur, Nia Medi, Margaret Williams, Rufus Mufasa a’r actores adnabyddus Siwan Morris.

Mae’r albwm ar gael i’w brynu ers 6 Chwefror, ond heno fydd y cyfle cyntaf i weld y caneuon yn cael eu perfformio’n fyw.

Mae’r gig yn dechrau am 19:30 heno yn Ten Feet Tall.