Senedd Nigeria
Mae dynion arfog wedi ymosod ar garchar yn Nigeria, gan ladd un o’r gwarchodwyr a rhoi cymorth i 118 o bobol ddianc.

Digwyddodd yr ymosodiad yn Koton-Karifi, tref yn sir Kogi, i’r de o’r brifddinas Abuja.

Dywedodd y llywodraeth fod ymchwiliad ar waith er mwyn darganfod beth ddigwyddodd.

Pryderon am sect eithafol Islamaidd

“Does neb yn gwybod yn union beth ddigwyddodd,” meddai Kayode Odeyemi, llefarydd carchardai’r llywodraeth.

“Mae’n bosib fod rhai o’r lladron arfog wedi bod yn ceisio achub y lladron arfog oedd eisoes yno yn aros am achos llys.”

Roedd y carchar yn bennaf yn llawn lladron arfog a herwgipwyr, ond doedd y llefarydd ddim yn gallu dweud os oedd aelodau o’r sect eithafol Islamaidd Boko Haram yn y carchar.

Ym Medi 2010 roedd Boko Haram wedi lansio ymosodiad tebyg iawn ar garchar yn sir Bauchi yn y gogledd, gan ryddhau 700 o garcharorion. Defnyddiwyd ffrwydron a drylliau yn y ddau ymosodiad.

Yn ôl adroddiad gan Amnest Rhyngwladol yn 2007, mae’r system carchardai yn “warthus,” gyda phlant yn cael eu carcharu gyda’u rhieni, a llwgrwobrwyo yn gyffredin iawn.