Mae disgwyl i Aelodau Seneddol ymweld â ynysoedd y Falklands fis nesaf, wrth i densiynau rhwng Prydain a’r Ariannin gynyddu.

Yn ôl adroddiad ym mhapur The Times, roedd aelodau o’r Pwyllgor Dethol Amddiffyn wedi dweud eu bod yn bwriadu ymweld â’r Falklands fis nesaf am eu bod yn awyddus i arolygu llu milwrol Prydain.

Mae Dug Caergrawnt wedi ymuno â’r llu yn y Falklands am gyfnod o chwe wythnos.

Daw’r ymweliad cyn nodi 30 mlynedd ers rhyfel y Falklands.

“Oherwydd fod gennym ni bresenoldeb milwrol sylweddol yn y Falklands, mae’n iawn bod y pwyllgor amddiffyn yn mynd i weld sut mae arian y trethdalwyr yn cael ei wario  a beth mae nhw’n ei wneud,” meddai aelod o’r pwyllgor Thomas Docherty.

Ond dywedodd llefarydd ar ran cyn filwyr yn yr Ariannin bod yr ymweliad yn “bryfociad arall”.

.