David Cameron
Fe fydd David Cameron yn datgan heddiw ei fod am fynd i’r afael â phroblemau gor-yfed a chamddefnydd alcohol sy’n costio £2.7 biliwn i’r Gwasanaeth Iechyd bob blwyddyn.

Fe fydd y Prif Weinidog yn mynnu bod archfarchnadoedd, bariau a’r diwydiant alcohol yn helpu i sicrhau bod pobl yn yfed yn gyfrifol.

Mae disgwyl iddo feirniadu ymddygiad “difeddwl” ac “anghyfrifol” canran fechan o bobl, gan awgrymu bod y costau o ddelio â phroblemau yn ymwneud ag alcohol rhwng £17-22 biliwn y flwyddyn.