Mae Llywodraeth San Steffan yn wynebu rhagor o newyddion drwg heddiw gan fod disgwyl i’r ffigurau diweithdra diweddara ddangos cynnydd arall.
Mae dadansoddwyr yn darogan y bydd nifer y rhai sy’n ddiwaith yn cynyddu o 80,000 pan fydd y ffigurau yn cael eu cyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau bore ma.
Fis diwethaf, roedd nifer y diwaith wedi codi i 2.68 miliwn, gan gynnwys dros filiwn o bobl ifanc 16 i 24 oed, y nifer fwyaf ers i gofnodion ddechrau ym 1992.
Roedd nifer y diwaith yng Nghymru wedi gostwng o 1,000 i 130,000 fis diwethaf.
Mae arolwg yn darogan y bydd y sefyllfa’n gwaethygu dros y misoedd nesaf wrth i gwmniau wneud rhagor o ddiswyddiadau.