Whitney Houston
Yn Los Angeles, mae crwner wedi cadarnhau bod corff  y gantores Whitney Houston wedi ei ddarganfod yn y bath yng ngwesty’r Beverly Hilton.

Cafwyd hyd i’r gantores 48 oed yn farw fore dydd Sul.

Dywed swyddogion nad yw’n ymddangos bod na amgylchiadau amheus am ei marwolaeth.  Ond mae nhw wedi gwrthod cadarnhau adroddiadau bod poteli o dabledi presgripsiwn wedi eu darganfod yn ystafell Whitney Houston.

Neithiwr bu rhai o sêr y byd cerddoriaeth yn talu teyrnged i Whitney Houston yn ystod seremoni wobrwyo’r Grammys.